INTERLINGUA

UMI  Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfathrebu rhyngwladol yn Ewrop, Gogledd a De America, Awstralia, neu rannau mawr o Affrica? Ydych chi eisiau dysgu iaith, ond yn meddwl y byddai’n rhy anodd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn ieithoedd yn gyffredinol? Os felly, beth am ddysgu Interlingua, sydd yn offeryn modern ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol!

Mae Interlingua:

Europa Yn pan-Ewropeaidd.
Mae’n defnyddio geiriau a dynnwyd o’r ieithoedd canlynol: Eidaleg, Sbaeneg / Portiwgaleg, Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg, a Rwsieg.
Scientia Yn wyddonol.
Interlingua yw’r canlyniad o gydweithrediad helaeth rhwng ieithyddion Ewropeaidd ac Americanaidd. Mewn ffordd systemataidd, dyfeision nhw eirfa ryngwladol gyffredin i brif ieithoedd Ewrop.
Natura Yn naturiol.
Does gan Interlingua ddim agweddau artiffisial. Mae pob nodwedd yn seiliedig ar o leiaf tair iaith o darddiad Ewropeaidd. Interlingua: symleiddio heb fod yn artiffisial!
Conversation Yn ymarferol.
Mae miliynau o bobl yn deall Interlingua “ar yr olwg gyntaf”. Mae siaradwyr ieithoedd Romáwns yn enwedig yn deall Interlingua ar unwaith a bron yn ddiymdrech. Delfrydol ar gyfer teithio!
Facile Yn hawdd.
Mae gramadeg Interlingua yn unffurf iawn, ac mae ei ynganiad yn dilyn rheolau llym a syml. Gydag Interlingua, nid oes unrhyw rhestrau diddiwedd o eithriadau ac afreoleidd-dra… mae dysgu Interlingua yn bleser!
Libros Yn addysgol.
Gydag Interlingua, byddwch yn dysgu bron yn awtomatig sawl gair estron yn eich mamiaith eich hun. Mae Interlingua yn sail ddelfrydol ar gyfer astudio ieithoedd ymhellach.
Bandieras Niwtral.
Nid yw Interlingua yn eiddo i unrhyw gymdeithas neu genedl penodol. Nid oes gan yr un siaradwr brodorol fantais annheg. Siaradwch Interlingua a rhoi pen ar wahaniaethu ar sail ieithyddol.
Ponte antique "Fel Lladin modern".
Mae’r mwyafrif o’r geiriau rhyngwladol yn tarddu o Ladin neu Groeg. Yn Interlingua, mae’r geiriau rhyngwladol hyn yn cymryd ffurf prototypical a safonol. Y canlyniad yw Lladin modern, rhyngwladol a syml, cain ac ymarferol.
Musica Yn hwyl.
Gydag Interlingua byddwch yn dod ar draws cymuned gynyddol sydd yn llawn pobl deallus a gwreiddiol. Mae ein cynadleddau yn brofiadau bythgofiadwy. Dewch i gael hwyl gyda ni! Rydym yn eich croesawu chi!

Fersiwn byr

Mae Interlingua yn iaith ryngwladol a oedd yn ganlyniad i gydweithrediad helaeth rhwng ieithyddion o Ewrop ac America. Mae geiriau Interlingua yn seiliedig ar eiriau rhyngwladol sy’n dod o’r Lladin, y Groeg ac ieithoedd eraill, ac yn bodoli mewn Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg / Portiwgaleg, Saesneg, Almaeneg, a Rwsieg. Mae gramadeg Interlingua yn syml ac yn hawdd. Mae’r ynganiadau yn rheolaidd ac yn gyfandirol Ewropeaidd.


InterlinguaINFORMATION
Contacto: Representation e organisationes national de interlingua
Film: Hallo, hallo – nos presenta interlingua!
Dictionarios e cursos de interlingua
Materiales pro studiar interlingua