Interlingua
INTERLINGUA
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfathrebu rhyngwladol yn Ewrop, Gogledd a De America, Awstralia, neu rannau mawr o Affrica? Ydych chi eisiau dysgu iaith, ond yn meddwl y byddai’n rhy anodd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn ieithoedd yn gyffredinol? Os felly, beth am ddysgu Interlingua, sydd yn offeryn modern ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol!
Mae Interlingua:
Yn pan-Ewropeaidd. Mae’n defnyddio geiriau a dynnwyd o’r ieithoedd canlynol: Eidaleg, Sbaeneg / Portiwgaleg, Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg, a Rwsieg. |
|
Yn wyddonol. Interlingua yw’r canlyniad o gydweithrediad helaeth rhwng ieithyddion Ewropeaidd ac Americanaidd. Mewn ffordd systemataidd, dyfeision nhw eirfa ryngwladol gyffredin i brif ieithoedd Ewrop. |
|
Yn naturiol. Does gan Interlingua ddim agweddau artiffisial. Mae pob nodwedd yn seiliedig ar o leiaf tair iaith o darddiad Ewropeaidd. Interlingua: symleiddio heb fod yn artiffisial! |
|
Yn ymarferol. Mae miliynau o bobl yn deall Interlingua “ar yr olwg gyntaf”. Mae siaradwyr ieithoedd Romáwns yn enwedig yn deall Interlingua ar unwaith a bron yn ddiymdrech. Delfrydol ar gyfer teithio! |
|
Yn hawdd. Mae gramadeg Interlingua yn unffurf iawn, ac mae ei ynganiad yn dilyn rheolau llym a syml. Gydag Interlingua, nid oes unrhyw rhestrau diddiwedd o eithriadau ac afreoleidd-dra… mae dysgu Interlingua yn bleser! |
|
Yn addysgol. Gydag Interlingua, byddwch yn dysgu bron yn awtomatig sawl gair estron yn eich mamiaith eich hun. Mae Interlingua yn sail ddelfrydol ar gyfer astudio ieithoedd ymhellach. |
|
Niwtral. Nid yw Interlingua yn eiddo i unrhyw gymdeithas neu genedl penodol. Nid oes gan yr un siaradwr brodorol fantais annheg. Siaradwch Interlingua a rhoi pen ar wahaniaethu ar sail ieithyddol. |
|
"Fel Lladin modern". Mae’r mwyafrif o’r geiriau rhyngwladol yn tarddu o Ladin neu Groeg. Yn Interlingua, mae’r geiriau rhyngwladol hyn yn cymryd ffurf prototypical a safonol. Y canlyniad yw Lladin modern, rhyngwladol a syml, cain ac ymarferol. |
|
Yn hwyl. Gydag Interlingua byddwch yn dod ar draws cymuned gynyddol sydd yn llawn pobl deallus a gwreiddiol. Mae ein cynadleddau yn brofiadau bythgofiadwy. Dewch i gael hwyl gyda ni! Rydym yn eich croesawu chi! |
Fersiwn byr
Mae Interlingua yn iaith ryngwladol a oedd yn ganlyniad i gydweithrediad helaeth rhwng ieithyddion o Ewrop ac America. Mae geiriau Interlingua yn seiliedig ar eiriau rhyngwladol sy’n dod o’r Lladin, y Groeg ac ieithoedd eraill, ac yn bodoli mewn Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg / Portiwgaleg, Saesneg, Almaeneg, a Rwsieg. Mae gramadeg Interlingua yn syml ac yn hawdd. Mae’r ynganiadau yn rheolaidd ac yn gyfandirol Ewropeaidd.
INFORMATION |
Contacto: Representation e organisationes national de interlingua |
Film: Hallo, hallo – nos presenta interlingua! |
Dictionarios e cursos de interlingua |
Materiales pro studiar interlingua |